P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Gwyn Job, ar ôl casglu 545 o lofnodion ar-lein a 569 ar bapur – cyfanswm o 1,114 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017).
Credwn fod Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd.
Arweiniodd Diwygiadau Methodistaid y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811).
Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern.
Mae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein stori genedlaethol fel Cymry.
Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.
Gwybodaeth ychwanegol:
Nodwn fod
Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau cyffelyb i nodi
cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd,
dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt,
dathlwyd cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o
arian trethdalwyr Cymru ar y digwyddiadau hyn.
Gyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn
y byddai'n anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod
cyfraniad Williams Pantycelyn yn yr un modd.
Gyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u
cyfraniadau unigol yn eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu
cyfraniadau hwy i fywyd Cymru gyfan gyda chyfraniad y Pêr
Ganiedydd, William Williams.
Bu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo " Y Cylch
Haearn" a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad
Cymru gan Edward I gyda darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y
gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl tro gan aelodau o'r
cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth Cymru fod
mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?
Byddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn
mewn modd priodol yn dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag
at ein hanes cenedlaethol.
Un syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a
ddynodwyd ar gyfer y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn
Llanymddyfri i gofio am Y Pêr Ganiedydd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Arfon
· Gogledd Cymru